Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 13 Mehefin 2018
Amser:
09.00 -
10.51
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4826
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Jayne Bryant AC Angela Burns AC Rhun ap Iorwerth AC Caroline Jones AC Vikki Howells AC (yn lle Julie Morgan AC) Lynne Neagle AC |
Tystion: |
Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Dafydd Elis-Thomas AC, Y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon Nathan Cook, Llywodraeth Cymru John Pugsley, Llywodraeth Cymru David Rosser, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Claire Morris (Clerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Amy Clifton (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie Morgan AC. Roedd Vikki Howells AC yn bresennol fel dirprwy.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a'r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon.
3.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cadeirydd at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
3.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru at y Cadeirydd.
3.3a Nododd y Pwyllgor adroddiad Plant Egnïol Iach Cymru 2018.
4.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.